Logo: Partneriaeth Economaidd Gwynedd
 
Tudalen Gartref
Pwy 'di Pwy
Newyddion
Cyfarfodydd
Cwestiynau
Y Broses Ymgeisio
Ymuno a'r Bartneriaeth
Dogfennau Defnyddiol
Prosiectau
Mentrau Cymunedol Ewrop
Safleoedd Gwe
Cysylltwch a Ni


Graffeg Undeb Ewropeaidd Amcan 1

Arianwyd yn rhannol gan yr
Undeb Ewropeaidd

 
Lluniau o Wynedd

Y Broses Ymgeisio


Cyfarwyddyd ar ddatblygu syniad cynllun ar gyfer cefnogaeth ariannol o Gronfa Amcan 1

Cam 1 

1.       Meddwl am syniad ar gyfer cynllun

Gall ddod oddi wrth unigolion, grwpiau a sefydliadau a hefyd oddi-wrth is-grwpiau Partneriaeth Economaidd Gwynedd(PEG) 

2.       Cysylltu efo ysgrifenyddiaeth PEG yn Uned Ewrop Cyngor Gwynedd

Dylid cysylltu gyda’r ysgrifenyddiaeth i sicrhau cymhwyster y prosiect i dderbyn arian Amcan 1.  Os na fydd y prosiect yn gymwys am Amcan 1, ceisir eich rhoi mewn cysylltiad â chyrff perthnasol eraill 

3.       Cryfhau y syniad

Os yn gymwys bydd Swyddog Achos yn cael ei benodi i gynnig cymorth a chyngor i’r ymgeisydd gan ei r/hoi mewn cysylltiad a chyrff eraill os yn berthnasol. 

4.       Llenwi profforma prosiect

Bydd y manylion ar y profforma yn cael eu defnyddio gan îs-grŵp asesu PEG a Grŵp Llywio’r Bartneriaeth i wneud penderfyniad ar p'unai i gefnogi a chymeradwyo’r cynllun ai peidio.  Bydd y Swyddog Achos penodedig yn rhoi cyngor ac yn gweithio gyda chi fel sydd angen i’ch cynorthwyo wrth gwblhau’r ffurflen hon. Dylid ystyried dogfennau lleol a rhanbarthol yma wrth ysgrifennu'r profforma.

5.       Anfon y profforma at grŵp asesu PEG drwy’r Ysgrifenyddiaeth

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gyrru’r profforma allan at is‑grwpiau eraill y Bartneriaeth i dderbyn eu cefnogaeth a’u sylwadau cyn cyfarfod yr îs-grŵp asesu. Bydd y grŵp asesu yn rhoi argymhelliad ar bob cais yn seiliedig ar feini prawf cyhoeddedig gan WEFO. Byddent yn edrych yn ogystal am unrhyw ddyblygiad a’r posibilrwydd o ymuno cynlluniau.
Gwahoddir ymgeiswyr i’r cyfarfod hwn i ateb unrhyw gwestiynau ychwanegol er mwyn cyflymu’r broses ymgeisio.

6.       Penderfyniad gan Grŵp Llywio PEG

Yn seiliedig ar argymhellion y grŵp asesu, bydd y Grŵp Llywio yn dod i benderfyniad p’unai i gefnogi'r prosesu au peidio.  Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch i gadarnhau y penderfyniad hwn. Os na dderbyniwyd cefnogaeth, bydd y rhesymau dros y penderfyniad yn cael eu hesbonio a bydd y Swyddog Achos wrth law i roi cyngor i chi ar eich opsiynau.  
Os yn llwyddiannus anfonir eich profforma at y Bartneriaeth Ranbarthol perthnasol gan eich Swyddog Achos er mwyn sicrhau cysondeb gyda strategaethau rhanbarthol.

Cam 2

1.       Cwblhau cais llawn Amcan 1 (ESF/ERDF/EAGGF/FIFG)

Gyda chymorth y Swyddog Achos byddwch yn llenwi y cais llawn er mwyn ei gyflwyno i WEFO o fewn 3 mis o dderbyn llythyr cefnogaeth gan PEG.

Bydd sylwadau gan PEG a’r Partneriaeth Ranbarthol yn cael eu cynnwys yma.

 2.      Anfon copi o’r ffurflen gais lawn at Uned Ewrop Cyngor Gwynedd

Wedi cwblhau y ffurflen gais lawn dylid anfon dau gopi at eich Swyddog Achos. Bydd y Swyddog Achos yn gyfrifol am yrru’r cais at y pwynt cyswllt perthnasol yn WEFO ynghyd â llythyr yn cadarnhau cefnogaeth PEG.

 3.      Gwerthusiad Ffurfiol gan WEFO

Bydd WEFO yn gwerthuso eich cais yn unol a chanllawiau perthnasol ac yn rhoi sgôr terfynol i’r cais. Byddant yn gofyn am fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd fel bo’r angen er mwyn iddynt allu cymeradwyo’r cais.

Gellid gofyn am gefnogaeth y Swyddog Achos gyda unrhyw ymholiadau.

4.       Ystyried y cynllun gan y Bartneriaeth Strategol Berthnasol

Bydd WEFO yn cyflwyno eu safbwynt a’u gwerthusiad i’r Bartneriaeth Strategol berthnasol ar y prosiect a bydd y Bartneriaeth yn cymryd i ystyriaeth barn PEG a’r Partneriaethau Rhanbarthol cyn dod i benderfyniad.

Disgwylir derbyn penderfyniad gan WEFO cyn pen 3 mis o yrru’r cais atynt.

5.       Derbyn hysbysiad swyddogol am y penderfyniad

Bydd WEFO yn anfon llythyr yn amlinellu’r penderfyniad at yr ymgeisydd ac yn rhoi gwybod i PEG:

    -  Ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cytundeb. 

    -  Ymgeisydd aflwyddiannus yn gorfod adolygu’r cais.

6.       Derbyn cytundeb gan WEFO

Mae gofyn i ymgeisydd llwyddiannus arwyddo cytundeb a derbyn holl reoliadau ac amodau derbyn nawdd Ewropeaidd Amcan 1.

Os bydd rhaid i’r ymgeisydd ymgymryd ag unrhyw newidiadau o fewn y cais, neu fod pryderon ynghylch gweithredu’r cais dylid cysylltu â WEFO a’r Swyddog Achos cyn gynted â bo modd.


Ffurflen Cyflwyno Syniad (Adobe Acrobat)


Ymholiadau pellach i: peg@gwynedd.gov.uk