Mae Gwynedd wedi cael llwyddiant arwyddocaol wrth sicrhau
adnoddau Amcan 1 ers i'r rhaglen ddechrau yn 2000. Mae PEG wedi bod yn weithredol
wrth ganfod a datblygu prosiectau a
fydd o gymorth wrth adfywio economi'r sir. Mae hyn yn deyrnged i waith
caled gan bawb dan sylw.
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf - Mehefin 2006
| Prosiectau wedi eu
cymeradwyo |
99 |
| Grant Amcan Un wedi ei
ddenu |
£71.9m |
| Cyfanswm Cost y
Prosiectau |
£163.0m |
Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys prosiectau hyfforddi, datblygu
cymunedol, datblygu busnes ac amgylcheddol sydd wedi cael eu datblygu gyda
chefnogaeth lawn y Bartneriaeth.
Mae nifer o brosiectau ychwanegol yn cael eu datblygu ar hyn o
bryd er mwyn derbyn arian Amcan 1 yng Ngwynedd, a bydd y dudalen hon yn cael ei
diweddaru'n rheolaidd unwaith y bydd y prosiectau yn cael eu cymeradwyo gan WEFO.
Mae PEG yn parhau i gyrraedd ei
hamcanion sy'n gosod gweledigaeth ar gyfer adfywiad economaidd yr ardal gyda
chyfres o amcanion economaidd, addysgol a chymdeithasol.
Petaech yn hoffi unrhyw wybodaeth ychwanegol ynghlych y
prosiectau a restrwyd ar y dudalen yma, cysylltwch a'r sefydliad perthnasol yn
uniongyrchol.
Hyffordiant
Datblygu Cymunedol
Datblygu Busnes
Amgylcheddol