Logo: Partneriaeth Economaidd Gwynedd
 
Tudalen Gartref
Pwy 'di Pwy
Newyddion
Cyfarfodydd
Cwestiynau
Y Broses Ymgeisio
Ymuno a'r Bartneriaeth
Dogfennau Defnyddiol
Prosiectau
Mentrau Cymunedol Ewrop
Safleoedd Gwe
Cysylltwch a Ni


Graffeg Undeb Ewropeaidd Amcan 1

Arianwyd yn rhannol gan yr
Undeb Ewropeaidd

 
Lluniau o Wynedd

Beth yw Interreg III?

"Menter Gymunedol” gan yr Undeb Ewropeaidd yw Interreg III gyda’r nod o annog datblygiad cytun a chytbwys ar draws ffiniau cenedlaethol. Caiff ei hariannu gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd ac mae’n rhedeg o 2000 hyd ddiwedd 2006 (er gellir sicrhau arian hyd ddiwedd 2008 ar gyfer ‘prosiectau ymrwymedig’). Cydweithrediad trawswladol sydd wrth wraidd rhaglenni Interreg.

Rhaglenni Interreg sy’n berthnasol i Gymru:  

 
  • Mae Interreg IIIA  yn canolbwyntio ar gydweithio rhwng rhanbarthau ffiniol, yn ein hachos ni rhwng gorllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon. Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy’n rheoli Interreg IIIA. Mae Rhaglen INTERREG IIIA Cymru/Iwerddon yn noddi cyd-brosiectau Cymreig/Gwyddelig. Yr amcan yw datblygu’r rhanbarthau o boptu’r ffin rhwng y ddwy wlad mewn ffordd gynaliadwy trwy integreiddio ymdrechion i ddatblygu’r economi, cymdeithas a’r amgylchedd.

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am y rhaglen ar:

www.interreg.ie/main.html
www.wefo.wales.gov.uk 

  • Mae Interreg IIIB yn hyrwyddo datblygiad cytbwys ar draws grwpiau mawr o ranbarthau Ewropeaidd. Mae Cymru’n gymwys am arian dan raglenni Gogledd Orllewin Ewrop (dyraniad dangosol y DU £68m) ac Ardal yr Iwerydd (dyraniad dangosol y DU £24m). Ni ddyrennir unrhyw arian ar wahân i Gymru. O’i chymharu â rhaglenni blaenorol, mae’r pwyslais wedi symud oddi wrth ymchwil tuag at brosiectau diriaethol, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith ar raddfa fach.

Ardal yr Iwerydd
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am y rhaglen a rhestr o ardaloedd cymwys ar: 

www.interregiiib.org.uk
www.atlanticooperation.org

Gogledd Orllewin Ewrop

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am y rhaglen a rhestr o ardaloedd cymwys ar:

www.interregiiib.org.uk
www.nweurope.org 


Mae'r safle hwn hefyd yn cynnwys drafft o flaenoriaethau a mesurau ar gyfer y rhaglen.
  • Mae Interreg IIIC yn elfen lai, a’i nod yw rhannu profiad a chyfnewid gwybodaeth ar raddfa fawr (prosiectau tebyg i brosiectau ymchwil). Mae Cymru’n gymwys am arian o ddyraniad dangosol i’r DU o fwy na £14m.  
http://europa.eu.int/comm/regional_policy/index_en.htm


CYSYLLTIADAU
Interreg IIIA

Jonathan Walsh, Swyddog Datblygu Interreg ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru
Ffôn: 01248 752141

Vivienne Pritchard, Swyddog Ewrop Cyngor Gwynedd
Ffôn:  01286 679 487

Mike Pollard, Ysgrifenyddiaeth Dechnegol ar y Cyd
Ffôn: 029 2082 3995



Ymholiadau pellach i: peg@gwynedd.gov.uk