Beth yw Partneriaeth Economaidd
Gwynedd?
Mae Partneriaeth Economaidd Gwynedd wedi ei sefydlu i sicrhau bod dull
cynhwysol yn cael ei gymeryd i ddatblygiad prosiectau Amcan Un yng Ngwynedd a
datblygu'r economi yn gyffredinol. Gall rhywun ymuno a'r Bartneriaeth ac
mae Grwp Llywio yn cael ei hethol bob blwyddyn, mae i'r partneriaeth
is-grwpiau
yn ogystal.
Prif rol y Bartneriaeth fel a ddifinwyd yn y cyfansoddiad yw:
Cydweithio fel Partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus,
cymdeithasol a gwirfoddol i ddarparu ymagwedd ar y cyd tuag at dwf economaidd
mewn modd cynaladwy yng Ngwynedd trwy ddatblygu a gweithredu Strategaeth
Ddatblygu Economaidd Gwynedd, gan ddilyn canllawiau egwyddorion cynaladwyedd,
partneriaeth, ansawdd, cydraddoldeb a chreadigrwydd.
Gellir gweld copi o'r cyfansoddiad yma.
Mae'r 15 sir a ddynodwyd gyda statws Amcan Un yn Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd
wedi ffurfio partneriaethau tebyg. Gellir cael manylion am y
partneriaethau hyn a gweld beth mae partneriaethau eraill yn ei wneud yma.
Be’ ydi’r Ddogfen Ategol (Programme Compliment)?
Y Pwyllgor Monitro Rhaglenni (PMC) sydd wedi cytuno ar y ddogfen hon. Hwn
yw’r pwyllgor sy’n gyfrifol am oruchwylio gweithredu’r rhaglen Amcan 1 yng
Ngorllewin Cymru ar Cymoedd.
Mae’r ddogfen yn amlinellu holl fanylion y gweithredoedd cymwys a’r allbynnau
a’r targedau. Mae’n debyg i gynllun busnes a dros 192 o dudalennau o hyd.
Be’ ydi’r Ddogfen Rhaglennu Sengl (Single Programming Document – SPD)?
Y ddogfen yma yw’r cytundeb rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas
Unedig ar sut y bydd yr arian a ddarperir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei
ddefnyddio i ddatrys y problemau economaidd a chymdeithasol yng Ngorllewin Cymru
ar Cymoedd.
Gellid ei gymharu â chynllun corfforaethol ar gyfer yr ardal Amcan 1, ac mae
hi’n ddogfen hir iawn gyda dros 375 o dudalennau.
|