Logo: Partneriaeth Economaidd Gwynedd
 
Tudalen Gartref
Pwy 'di Pwy
Newyddion
Cyfarfodydd
Cwestiynau
Y Broses Ymgeisio
Ymuno a'r Bartneriaeth
Dogfennau Defnyddiol
Prosiectau
Mentrau Cymunedol Ewrop
Safleoedd Gwe
Cysylltwch a Ni


Graffeg Undeb Ewropeaidd Amcan 1

Arianwyd yn rhannol gan yr
Undeb Ewropeaidd

 
Lluniau o Wynedd

Croeso


Croeso i wefan Partneriaeth Economaidd Gwynedd (PEG), y bartneriaeth leol yng Ngwynedd sydd yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau Amcan 1 yn y Sir ac am hybu datblygiad economaidd yn gyffredinol.

Gobeithio y cewch yr wybodaeth angenrheidiol ar y tudalennau hyn am Amcan 1 yng Ngwynedd.

Bydd y safle yn cael ei ddiweddaru'n gyson wrth i'r Rhaglen Amcan 1 ddatblygu, ac wrth i brosiectau llwyddiannus gael eu cymeradwyo yn y Sir.

Defnyddir y safle hwn er mwyn gwireddu yr amcanion hyn:
  • Sicrhau bod trigolion o fewn i Wynedd a thraw yn ymwybodol o'r cyfleon sydd yn bodoli gyda Amcan 1 yn lleol ac yn rhanbarthol o fewn Gorllwein Cymru a'r Cymoedd.
  • Sicrhau bod prosiectau Gwynedd yn cael eu hyrwyddo gan sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.
  • Cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd PEG gan rhyddhau cofnodion a phapurau.
  • Rhoi canllawiau i ddarpar-ymgeiswyr o'r broses Amcan 1 yng Ngwynedd gan ddarparu dogfennau a chysylltiadau anghenrheidiol.
  • Ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin sydd yn bodoli, a rhoi cyfle i'r cyhoedd roi barn ar waith y Bartneriaeth.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am y lluniau ar ben y dudalen hon, ar y dudalen prosiectau.
Os y dymunwch unrhyw wybodaeth bellach am PEG ac Amcan 1, cofiwch gysylltu a'r Ysgrifenyddiaeth.

 

 

 


Ymholiadau pellach i: peg@gwynedd.gov.uk